Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dai

6 Chwefror 2023

Yn bresennol:

Enw

Sefydliad

 

Enw

Sefydliad

Mabon ap Gwynfor AS

Senedd Cymru (Cadeirydd)

 

Y Cynghorydd Linda Davies Evans

Cyngor Sir Gaerfyrddin

Altaf Hussain AS

Senedd Cymru

 

Sara Burch

Cyngor Sir Fynwy

Ruth Power

Shelter Cymru

 

Amy Lee Pierce

Y Wallich

Jennie Bibbings

Shelter Cymru

 

James Radcliffe

Platfform

Matthew Palmer

Shelter Cymru

 

Y Cynghorydd John Morgan

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Wendy Dearden

Shelter Cymru

 

Y Cynghorydd Andrea Lewis

Cyngor Abertawe

Ross Thomas

Tai Pawb

 

Matt Harris

Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi

David Rowlands

Tai Pawb

 

Nichola Zerk

Cyngor Dinas Casnewydd

Matthew Dicks

CIH Cymru

 

Y Cynghorydd Rhys Goode

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cerys Clark

CIH Cymru

 

Donna Oldfield

Sipsiwn a Theithwyr Cymru

Y Cynghorydd Alun Llewelyn

Cyngor Castell-nedd Port Talbot

 

Faye Patton

Gofal a Thrwsio Cymru

Ryland Doyle

Swyddfa Mike Hedges AS

 

Bonnie Williams

Housing Justice Cymru

Robert Smith

Prifysgol Caerdydd

 

Y Cynghorydd James Clarke

Cyngor Dinas Casnewydd

Tim Thomas

Propertymark

 

Y Cynghorydd David Daniels

Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Tim Crahart

Homeshare Wales

 

Steven Bletsoe

Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl

Becky Ricketts

Gofal a Thrwsio Cymru

 

Bryony Haynes

Cartrefi Cymunedol Cymru

Joy Williams

Cyngor Sir Gaerfyrddin

 

Louisa Devonish

 

Stephanie Rogers-Lewis

Cyngor Caerdydd

 

Gareth Lyn Montes

Cyngor Ffoaduriaid Cymru

David Kirby

Y Sefydliad Adeiladu Siartredig

 

Hugh Russell

Cwmpas

Katie Dalton

Cymorth Cymru

 

Jenny Russon

Sefydliad Elusennol MCS

Manon Roberts

Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Thomas Hollick

Y Wallich

Andy Thompson

Cyngor Sir Powys

 

Natalie Thompson

Cyngor Dinas Casnewydd

Zak Weaver

Swyddfa Sam Rowlands AS

 

Carolyn Johnstone

Byddin yr Iachawdwriaeth

Steve Porter

Cyngor Abertawe

 

Debbie Thomas

Crisis

Jasmine Harris

Crisis

 

 

 

 

 

Eitem ar yr agenda

Nodiadau

Croeso gan y Cadeirydd

Croesawodd Mabon ap Gwynfor AS bawb i’r cyfarfod cyn amlinellu agenda’r sesiwn a throsglwyddo’r awenau i’r cyflwynwyr.

Cyllideb 2023 Llywodraeth Cymru:

Y Goblygiadau ar gyfer Tai – cymorth, cyflenwad a landlordiaid cymdeithasol

Bydd cyflwyniad pob siaradwr ar gael fel dogfen ar wahân.

 

Trafododd Katie Dalton, Cyfarwyddwr, Cymorth Cymru yr angen i gynyddu’r Grant Cymorth Tai yn y gyllideb sydd i ddod, a galwodd ar Aelodau o’r Senedd i godi’r materion yn y ddadl ar y gyllideb ddrafft.

 

Yng Nghyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023/24, mae cyllid Grant Cymorth Tai yn £166.7 miliwn. Dyma’r un faint ag yr oedd yn 2022/23 a 2021/22, er gwaethaf y pwysau cynyddol ar y system ddigartrefedd ac effaith chwyddiant. Mae’r sector yn bryderus iawn am y setliad hwn ac wedi annog Gweinidogion i ailystyried cyn cyhoeddi’r gyllideb derfynol.

 

Darparodd Cerys Clark, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus, Sefydliad Tai Siartredig Cymru drosolwg o oblygiadau cyllidebol o ran datgarboneiddio tai cymdeithasol a diogelwch adeiladau.

 

Er bod y Sefydliad yn croesawu’r ymrwymiad parhaus i gynyddu’r cyflenwad o gartrefi cymdeithasol carbon isel, mae pryderon ynghylch diffyg cyllid i ddwyn datgarboneiddio yn ei blaen yng Nghymru. Mae angen eglurhad hefyd o'r cyllid ar gyfer SATC 2023 sydd heb gael ei gynnwys yn y gyllideb ddrafft.

 

Trafododd Bryony Haynes, Rheolwr Polisi a Materion Allanol, Cartrefi Cymunedol Cymru yn ehangach oblygiadau'r gyllideb ddrafft i gymdeithasau tai.

 

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru’n falch o weld buddsoddi’n parhau mewn cartrefi fforddiadwy newydd i’w rhentu, gyda £330 miliwn ar gyfer y Grant Cymorth Tai yn y gyllideb ar gyfer 2023/24, ac mae’r gronfa Cyfalaf Trosiannol wedi bod yn enghraifft i’w chroesawu o gyllid ystwyth sydd â ffocws, a dull y dylid ei gyflwyno’n ehangach.

 

Er bod y cyfle cyllidol yno i ddarparu cartrefi newydd, mae anghydbwysedd rhwng hyn a’r her ariannol enfawr i ôl-osod cartrefi presennol yn y sector rhentu cymdeithasol.

 

Fforwm

Cyfeiriodd y Cynghorydd Andrea Lewis at y pwysau sy’n wynebu awdurdodau lleol a chymdeithasau tai a’r cydbwysedd o ran mynd i’r afael â safonau llety tra hefyd yn dod o hyd i ateb i heriau digartrefedd, y diffyg llety sydd ar gael, a’r niferoedd cynyddol sydd mewn llety dros dro. A oes angen i derfyn amser datgarboneiddio gael ei ymestyn? A fyddem yn elwa ar saib mewn gweithgaredd wrth i’r dechnoleg ddatblygu a meddwl am dechnolegau eraill?

 

Siaradodd Andy Thompson am y ffocws ar ddatgarboneiddio yn y sector cymdeithasol, a gofynnodd tybed a yw tenantiaid yn teimlo fel testun arbrawf ar gyfer technolegau newydd. Yn y cyfamser, mae perchen-feddianwyr yn canolbwyntio ar dalu eu morgeisi, nid buddsoddi yn eu heiddo.

 

Mynegodd y Cynghorydd David Daniels bryderon am y sefyllfa ddifrifol sy’n wynebu darparwyr cymorth a’u heriau recriwtio.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Andrea Lewis y dylai’r Grŵp Trawsbleidiol anfon llythyr at y Gweinidog yn amlinellu realiti'r sefyllfa ar lawr gwlad ac yn mynegi pryderon ynghylch annigonolrwydd cynigion y gyllideb ddrafft.

 

Cam i’w gymryd: Cytunodd y cyfarfod i lythyr gael ei anfon at y Gweinidog Newid Hinsawdd

 

Awgrymodd Steve Bletsoe ei bod yn rhaid inni fod yn ymwybodol o anghenion y sector rhentu preifat. Sut y gallwn ni gyflawni datgarboneiddio ar ben rheoliadau a deddfwriaeth newydd? Mae Cymdeithas Landlordiaid Preswyl Cenedlaethol yn cefnogi unrhyw arian ychwanegol i ddarparu cefnogaeth i denantiaid a hefyd y pot taliadau tai dewisol – mae’n fain ar bawb ar hyn o bryd.

 

Tynnodd Jennie Bibbings sylw at bryderon ynghylch nifer fach ond cynyddol y morgeisi sy’n cael eu hadfeddiannu, a rhoddodd fanylion am alwad Shelter Cymru am gyllid achub morgeisi pwrpasol.

 

Cloi'r cyfarfod

Diolchodd Mabon ap Gwynfor AS y bobl bresennol a’r siaradwyr.

 

Manteisiodd ar y cyfle i gydymdeimlo â Mark Drakeford ar golli ei wraig yn ddiweddar, ac â Carolyn Thomas ar golli ei mab.

 

Atgoffodd Mabon bawb y bydd y cofnodion ar gael gan Shelter Cymru maes o law a daeth â'r cyfarfod i ben.

Dyddiad y cyfarfod nesaf

Dydd Llun 15 Mai 2023, 09.30-10.30 ar Teams